LlywelynROBERTS ROBERT(Robin gynt o Ephraim TV) Maesgarnedd, Summer Hill, Blaenau Ffestiniog. Dymuna Anne, Nia, Llinos a’u partneriaid, ddiolch yn fawr iawn i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn dilyn eu profedigaeth trist o golli gwr, tad, ewythr a ffrind annwyl. Bu’r galwadau ffôn, cardiau, blodau, ymweliadau, cymorth y gymuned a phresenoldeb pawb yn yr angladd o gymorth a chysur mawr. Diolch o galon i’r teulu agos, ffrindiau a chymdogion am eu cymorth, cefnogaeth a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod y cyfnod anodd yma. Diolch yn arbennig i’r Parch. Anita Parry-Ephraim am y gwasanaeth ardderchog ac i Mr Alan Roberts, Porthmadog am ei gyfraniad bendigedig wrth yr organ. Diolch yn ddiffuant i’r ymgymerwyr Gareth, Margaret a Carys (John Williams a’i Fab) am y trefniadau trylwyr, gofalus a pharchus dros ben ac hefyd diolch am yr holl roddion hael a charedig a dderbyniwyd at Ymchwil Cancer y DU.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Llywelyn